Romans 16

Cyfarchion Personol

1Dim ond pethau da sydd gen i i'w dweud am Phebe, ein chwaer sy'n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea. 2Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un sy'n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi.

3Cofiwch fi at Priscila ac Acwila, sy'n gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu. a 4Dau wnaeth fentro eu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd!

5Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw.

Cofiwch fi at fy ffrind annwyl Epainetws – y person cyntaf yn Asia i ddod yn Gristion.

6Cofiwch fi at Mair, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar eich rhan. 7Hefyd at Andronicus a Jwnia,
16:7 Jwnia: Mae rhai llawysgrifau yn dweud Jwlia.
cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd – roedden nhw'n credu yn y Meseia o'm blaen i.

8Cofion at Ampliatus, sy'n ffrind annwyl i mi yn yr Arglwydd.

9Cofion hefyd at Wrbanus, sy'n gweithio gyda ni dros y Meseia, ac at fy ffrind annwyl Stachus.

10Cofiwch fi at Apeles, sydd wedi profi ei hun yn ffyddlon i'r Meseia.

Cofion at bawb sy'n gwasanaethu yn nhŷ Aristobwlus.

11Cofiwch fi at Herodion sydd yntau'n Iddew, ac at y Cristnogion hynny sy'n gwasanaethu yn nhŷ Narcisws.

12Cofiwch fi at Tryffena a Tryffosa, dwy wraig sy'n gweithio'n galed dros yr Arglwydd.

A chofiwch fi hefyd at Persis annwyl – gwraig arall sydd wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed dros yr Arglwydd.

13Cofion at Rwffus, gwas arbennig i'r Arglwydd, ac at ei fam sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd.

14A chofiwch fi at Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermes a'r brodyr a'r chwiorydd eraill gyda nhw.

15Cofion at Philologws a Jwlia, Nerews a'i chwaer, ac Olympas a phob un o'r credinwyr eraill sydd gyda nhw.

16Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae eglwysi'r Meseia i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.

17Dw i'n apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylio'r bobl hynny sy'n creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw. 18Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith. 19Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi'n ufudd i'r Arglwydd, a dw i'n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg. 20A bydd Duw, sy'n rhoi'r heddwch dwfn, yn eich galluogi i sathru Satan a'i fathru dan eich traed yn fuan.

Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.

21Mae Timotheus, sy'n gweithio gyda mi yn anfon ei gyfarchion atoch chi; hefyd Lwcius, Jason a Sosipater, fy nghyd-Iddewon.

22(A finnau, Tertiws, sydd wedi rhoi'r llythyr yma ar bapur. Dw i'n eich cyfarch chi yn yr Arglwydd hefyd.) 23Mae Gaius yn anfon ei gyfarchion (yn ei gartre fe dw i'n aros), ac mae'r eglwys sy'n cyfarfod yma yn anfon eu cyfarchion hefyd.

Cyfarchion hefyd oddi wrth Erastus, trysorydd cyngor y ddinas, a hefyd oddi wrth y brawd Cwartus.
16:23 Cwartus: Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn.24, Dw i'n gweddïo y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol yr Arglwydd Iesu Grist. Amen.

25Clod i Dduw, sy'n gallu'ch gwneud chi'n gryf drwy'r newyddion da sydd gen i – sef y neges sy'n cael ei chyhoeddi am Iesu y Meseia. Mae'r cynllun dirgel yma wedi bod yn guddiedig ar hyd yr oesoedd, 26ond bellach mae wedi ei ddwyn i'r golwg. Fel mae'r ysgrifau proffwydol yn dweud, y rhai gafodd eu hysgrifennu drwy orchymyn y Duw tragwyddol – mae pobl o bob cenedl yn cael eu galw i gredu ynddo a byw'n ufudd iddo. 27O achos beth wnaeth Iesu y Meseia, mae e, yr unig Dduw doeth, yn haeddu ei foli am byth! Amen!
16:27 Amen!: Mae rhai llawysgrifau yn gosod adn.25-27 ar ôl 14:23. Mae eraill yn eu gosod yma ac ar ôl 14:23, ac mae un llawysgrif yn eu gosod ar ôl 15:33.

Copyright information for CYM